Mae peilot wedi torri’i goes wedi i’w awyren ysgafn blymio i ganol coed yn ardal Manceinion.
Fe ddaeth yr awyren un-sedd i lawr i’r ddaear ger maes awyr City yn Salford, tua 1yp bnawn Llun.
Mae’r peilot, 67, wedi’i gludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau difrifol, ond heb fod yn rhai sy’n bygwth ei fywyd.
Chafodd neb arall eu hanafu yn y ddamwain.