Bydd dros £1 miliwn yn cael ei dalu mewn ôl-dâl i filoedd o weithwyr siop chwaraeon ar ôl i’r siop gyfaddef peidio talu’r isafswm cyflog.

Mae’n golygu y bydd rhai gweithwyr mewn warws yn Swydd Derby yn derbyn cymaint â £1,000 mewn taliadau sy’n dyddio nôl at fis Mai 2012.

Bydd y taliadau yn cael eu gwneud i weithwyr asiantaeth a staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Sports Direct.

Dywedodd Steve Turner o undeb Unite fod y penderfyniad yn “fuddugoliaeth sylweddol yn ymgyrch yr undeb i sicrhau urddas yn y gwaith i weithwyr Sports Direct.

Daeth y newid wedi Lywodraeth y DU gyhoeddi enwau pedwar busnes yng Nghymru oedd wedi methu â thalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithwyr dros y flwyddyn diwethaf.

Mae’r cwmnïau mewn dyled o bron i £4000 mewn ôl-ddyledion i bedwar gweithiwr, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Busnes, Margot James.