Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi addo sefydlu system addysg “o’r crud i’r bedd” pe bai’n dod yn Brif Weinidog Prydain.

Mae ei weledigaeth yn seiliedig ar Wasanaeth Iechyd Aneurin Bevan.

Bydd angen i gynhadledd y Blaid Lafur dderbyn y cynnig cyn y gallai ddod yn bolisi swyddogol y blaid.

Fel rhan o’r cynllun, byddai ffioedd dysgu mewn prifysgolion yn cael eu diddymu, a byddai oedolion yn gallu neilltuo nifer sefydlog o oriau bob wythnos ar gyfer addysg neu hyfforddiant.

Mae e eisoes wedi addo buddsoddi £500 biliwn mewn is-adeiledd a diwydiannau technegol dros gyfnod o ddeng mlynedd, ac mae’n honni y gallai ei gynllun roi hwb o £96 biliwn i economi Prydain bob blwyddyn.

Dywedodd Corbyn: “Bydd y Gwasanaeth Addysg Cenedlaethol yn rhoi addysg dda wrth galon ein cymdeithas – gan agor cyfleoedd i bawb.”

Yn yr Observer, cyfaddefodd Corbyn fod y cynllun yn ddrud, ond fe ddywedodd y byddai’n cael ei ariannu drwy addasu lefelau trethi corfforaethol, cadw lefelau trethi fel arall yn gyson, a mynd ar ôl unigolion sy’n osgoi talu trethi neu sy’n defnyddio dulliau o arallgyfeirio trethi.