Fe fydd rhaid i Lywodraeth Prydain ymateb i argyfwng ariannu’r Gernyweg ar ôl i ddeiseb gasglu dros 10,000 o lofnodion.

Byddai angen cyrraedd 100,000 o lofnodion cyn y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal yn San Steffan.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Dr Jon Mills ym mis Ebrill, ac mae 10,207 o bobol bellach wedi’i llofnodi.

Penderfynodd Llywodraeth Prydain ym mis Ebrill na fydden nhw’n parhau i ariannu’r iath Geltaidd – cyn hynny, roedd hi’n derbyn hyd at £150,000 y flwyddyn.

Roedd yr arian yn cael ei wario ar addysg ar ôl iddi gael ei chydnabod o dan Siarter Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol 2003.

Ddiwedd 2015, gwnaeth Cyngor Cernyw gais am arian ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, gan sicrhau gefnogaeth nifer o aelodau seneddol ac arglwyddi blaenllaw.

Ond cafodd wybod gan yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol yn ddiweddarach na fu’r cais yn llwyddiannus, er bod pobol Cernyw wedi cael eu cydnabod yn swyddogol fel cenedl leiafrifol yn 2014.

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan arweinydd plaid Mebyon Kernow, y cynghorydd Dick Cole.