Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn 48 oed yn dilyn ffrwgwd mewn tafarn yn Swydd Buckingham wedi arestio dyn 61 oed ar amheuaeth o lofruddio.

Cafodd y dyn ei arestio a’i gadw yn y ddalfa nos Sadwrn yn dilyn marwolaeth Dean Haverley yn yr ysbyty wedi’r ymosodiad ym mhentref Burnham.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn y ffrwgwd yn y George Inn, ac maen nhw’n apelio am wybodaeth.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi gan ffrindiau Dean Haverley ar wefannau cymdeithasol, ac mae ei deulu wedi gofyn am breifatrwydd.