Mae Cwmni siopa ar-lein Amazon am greu 500 swyddi yn Doncaster wrth iddyn nhw agor warws newydd.

Fe fydd y warws newydd yn cael ei agor yn 2017 er mwyn ateb y galw cynyddol ymhlith cwsmeriaid ym Mhrydain.

Fe ddywedodd Cwmni Amazon, sydd wedi cael eu herio am dalu cyflogau isel ac amodau gwaith gwael, fod y staff parhaol yn derbyn pecyn o fuddiannau llawn, yn cynnwys yswiriant meddygol preifat, cynllun pensiwn a phrydau bwyd wedi eu subsideiddio.