Bydd y Blaid Llafur yn herio penderfyniad yr Uchel Lys i ganiatáu i aelodau newydd o’r blaid bleidleisio yn yr etholiad arweinyddiaeth heddiw.

Roedd y penderfyniad yn hwb amlwg i Jeremy Corbyn yn ei frwydr i gael ei ail ethol fel arweinydd y Blaid Lafur gan bod disgwyl i fwyafrif yr aelodau newydd ei gefnogi ef yn hytrach na’i wrthwynebydd, AS Pontypridd, Owen Smith.

Ond mae swyddogion y blaid yn mynd a’u hachos i’r Llys Apêl heddiw mewn ymgais i ailosod y gwaharddiad a osodwyd gan Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur (NEC) i atal 130,000 o aelodau newydd rhag gael pleidlais.

Penderfynodd y NEC na fyddai aelodau llawn o’r blaid yn cael pleidleisio os nad ydynt wedi bod yn aelodau am o leiaf chwe mis hyd at 12 Gorffennaf.

Fe wnaeth pum aelod newydd fynd a’r blaid i’r llys gan gyhuddo’r NEC o’u hatal thag pleidleisio yn anghyfreithlon er eu bod nhw wedi talu ffi i ymaelodi.

Chwarter miliwn

Mae swyddogion y Blaid wedi dweud eu bod yn apelio er mwyn “amddiffyn hawl y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (NEC)” i osod rheolau’r Blaid Llafur.

Mae cefnogwyr Jeremy Corbyn wedi annog y blaid i beidio ag apelio yn erbyn y dyfarniad, gan ddweud na ddylai arian aelodau gael ei ddefnyddio i geisio eu hatal rhag pleidleisio. Mae’n debyg bod bron i chwarter miliwn o goffrau’r blaid wedi cael ei ddefnyddio ar yr achosion llys hyd yn hyn yr haf hwn.

Yn y cyfamser, mae Owen Smith wedi pwysleisio y gallai ennill yr etholiad arweinyddiaeth o hyd ond mae’n cyfaddef ei fod ar ei hôl hi ac mae wedi galw am i amserlen yr etholiad gael ei ymestyn am bythefnos oherwydd y tarfu a fu.