Wayne Rooney
Mae dyn 24 oed wedi’i gyhuddo o geisio bwrglera o gartre’ capten tîm pêl-droed Lloegr, Wayne Rooney.

Fe gafodd Robert Leslie McNamara o Scarborough, Gogledd Swydd Efrog, ei arestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o dorri i mewn i blasty’r pêl-droediwr tra’r oedd o’n chwarae yn ei gêm dysteb ei hun yn Old Trafford yr wythnos ddiwetha’.

Roedd larwm lladron y cartre’ gwerth £6m yn Prestbury wedi denu sylw’r heddlu.

Roedd gwraig a thri mab yr ymosodwr – Coleen, Kai, Klay and Kit – bob un yn y gêm dysteb yn erbyn ei glwb cynta’, Everton, ddydd Mercher, Awst 3.