Mae dyn 22 oed wedi’i arestio heddiw wedi iddo geisio dringo dros ffens ddiogelwch i mewn i Balas Buckingham.
Yn ôl Scotland Yard, cafodd y dyn ei weld ar gamerâu cylch cyfyng tua 4.15 bore dydd Mawrth.
Doedd e ddim wedi llwyddo i fynd i mewn i’r palas ei hun, ond fe ddaeth o fewn “perimedr diogelwch” y lle.
Roedd y dyn wedi bod yn yfed, ond nid oedd yn cario unrhyw arfau.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu canolog Llundain ar hyn o bryd.
Yn ôl adroddiadau, doedd yr un aelod o’r teulu brenhinol yn y palas ar y pryd, gyda’r Frenhines yn Balmoral yn yr Alban.