Mae dynes yn ei 20au wedi marw mewn damwain car wedi ras lle’r oedd car heddlu’n ymchwilio i ddrôn oedd yn cael ei hedfan ger tir carchar yn Llundain.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i gyffiniau Carchar Wandsworth yn ne Llundain toc wedi 3yb heddiw, gan ddechrau dilyn car oedd yn gyrru ymaith o’r ardal.

Tua 3.10yb, fe fu’r car mewn gwrthdrawiad ar gyffordd Wandsworth Bridge Road, a bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle. Mae gyrrwr y car, dyn yn ei 20au, mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.

Mae swyddogion Comisiwn Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio.

Mae’r awdurdodau wedi dod yn gynyddol bryderus am y modd y mae drôns yn cael eu defnyddio i smyglo cyffuriau a ffonau symudol i mewn i garchardai.