Mae chwech o bobol wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydriad mewn ty teras yn ardal Greater Manchester yn ystod oriau mân dydd Mawrth.

Mae un ohonyn nhw wedi’i losgi’n wael, a’r pump arall yn diodde’ o fân anafiadau, wedi i’r ty yn Ashton-under-Lyne gael ei ddymchwel yn y digwyddiad tua 5yb.

Fe gafodd Gwasanaeth Achub a Thân Greater Manchester ei alw, ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans yr ardal.

Mae un claf wedi’i gludo i ysbyty Inffyrmari Brenhinol Manceinion, un arall i Ysbyty Wythenshawe, a’r lleill i Ysbyty Tameside.