Mae enw unoliaethwr amlwg a gafodd ei saethu’n farw yng Ngogledd Iwerddon, wedi’i gyhoeddi.

Roedd John Boreland yn aelod o’r Ulster Defence Association (UDA).

Fe ddigwyddodd y saethu yn Sunningdale Gardens yn ardal unoliaethol Ballysillan yng ngogledd dinas Belffast, tua 9.50yh ddydd Sul. Mae Prif Weinidog Stormont, Arlene Foster, wedi condemio’r ymosodiad.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness wedi galw’r saethu yn weithred “ddiegwyddor”.

Mae heddlu Gogledd Iwerddon wedi apelio ar i dystion ddod ymlaen i’w helpu yn yr ymchwiliad i ddod o hyd i’r llofrudd.