Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn dweud ei bod hi'n awyddus i bobol elwa o benderfyniadau ariannol
Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May amlinellu cynlluniau i roi iawndal i bobol sy’n cael eu heffeithio gan brosiectau ffracio yn eu hardaloedd.

Cafodd cronfa nwy siâl o £1 biliwn ei sefydlu gan y cyn-Ganghellor George Osborne ym mis Tachwedd, ac fe fydd 10% o’r arian sy’n cael ei godi trwy drethi yn mynd yn ôl i gymunedau sydd â ffynnon.

Bydd y drefn yn cael ei newid fel bod unigolion, yn hytrach nag awdurdodau neu gynghorau lleol, yn derbyn yr arian.

Gallai cymunedau dderbyn hyd at £10 miliwn yn ôl cynlluniau’r llywodraeth, ac mae lle i gredu y gallai teuluoedd unigol dderbyn rhwng £5,000 a £20,000.

Ond mae darogan y gallai’r cynlluniau gael eu hystyried gan feirniaid fel modd o “lwgrwobrwyo” trigolion ac y byddai’n tynnu arian oddi ar flaenoriaethau cymunedol eraill megis is-adeiledd neu hyfforddi sgiliau.