Mae’r heddlu yn chwilio mewn afon am fachgen 16 oed a welwyd y tro diwetha’ yn mynd i gyfeiriad y dwr yn noethlymun.

Does neb wedi gweld Nathan Wood, sy’n dod o ardal Paignton yn Nyfnaint, ers tua 6 o’r gloch neithiwr, pan oedd yn chwarae gyda chriw o ffrindiau ar lannau afon Dart.

Mae’r heddlu’n poeni y gallai Nathan Wood fod dan ddylanwad “sylwedd seicoactif” pan aeth am yr afon.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 7 o’r gloch neithiwr, ac mae’r chwilio’n para am y bachgen.