Mae milwr Prydeinig wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes sy’n aelod o luoedd arfog Canada ar ol i’r ddau fod mewn digwyddiad yn Ontario.

Yr honiad ydi fod yr Is-Gapten Christopher Davies, 45, sydd wedi gwasanaethu yn Afghanistan, wedi neidio ar y swyddog 52 mlwydd oed yn ystod oriau mân Ebrill 10, ar ol ei dilyn o far i’r gwesty lle’r oedd hi’n aros.

Roedd Christopher Davies wedi cyfarfod y ddynes am y tro cynta’ y noson gynt, yn ystod digwyddiad i goffau Brwydr Cefn Vimy yn Fort Frontenac, Kingston.

Fe gafodd yr ymosodiad honedig ei riportio i’r heddlu, ac fe ddechreuodd ditectifs ymchwilio, gan holi tystion a chribo’r ardal am dystiolaeth fforensig.

Mae ymchwilwyr yn dweud fod ganddyn nhw resymau dilys tros gredu i’r ymosodiad gymryd lle, ac fe gafodd Christopher Davies ei arestio ar Awst 2.