Roedd gwên fawr ar wyneb y chwaraewr tenis, Andy Murray, wrth iddo arwain athletwyr tîm Prydain Fawr i mewn i stadiwm Maracana yn ystod seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Rio nos Wener.

Roedd y dorf ar ei thraed wrth i athletwyr 206 o wledydd o bob cwr o’r byd gymryd rhan yn y carnifal i agor y 31ain gyfres o gemau.

Roedd Andy Murray, y pencampwr Olympaidd sy’n amddiffyn ei deitl yn Rio de Janeiro eleni, yn cario baner Jac yr Undeb yn ei law chwith, a gweddill y tîm yn ei ddilyn yn gwisgo’u tracwisgoedd coch, gwyn a glas.

Dadleuol

Ond er y pomp i gyd, mae yna fwy nag un cysgod dros y Gemau eleni. Mae gwasgfa economaidd ym Mrasil, ynghyd ag ofnau ynglyn â lledu’r feirws Zika, a sgandal gyffuriau carfan athletwyr Rwsia, i gyd heb eu datrys.

Mae yna ofnau hefyd ynglyn â diogelwch, wedi ymosodiadau terfysgol ledled y byd yn ddiweddar. Mae mwy na 80,000 o heddweision a milwyr wedi’u hapwyntio i warchod pob arena lle y bydd athletwyr y  byd yn cystadlu – dwbwl y cyfanswm yn Llundain yn 2012.

Wrth i’r seremoni agoriadol fynd rhagddi, roedd timau difa bomiau yn archwilio dau fag amheus oedd wedi’u gadael ar arena’r bêl foli ar draeth Copacabana.