HIV
Mae elusen Aids wedi ennill brwydr yn yr Uchel Lys ynglŷn â chael y Gwasanaeth Iechyd (GIG) i ariannu triniaeth i atal HIV.

Dywed y GIG yn Lloegr ei fod wedi derbyn cyngor nad oes ganddo’r grym cyfreithiol i ariannu’r cyffur pre-exposure prophylaxis (PrEP), sy’n cael ei ddefnyddio i atal HIV rhag datblygu os yw person yn cael ei heintio.

Roedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Aids (NAT) wedi dadlau bod y cyffur yn “hynod effeithiol”.

Yn yr Uchel Lys yn Llundain heddiw fe ddyfarnodd y barnwr Mr Ustus Green for y GIG yn Lloegr wedi gwneud “camgymeriad” yn ei benderfyniad “nad oedd ganddo’r grym na’r ddyletswydd” i ariannu’r cyffur.

Mae’r dyfarniad yn fuddugoliaeth i NAT a oedd wedi dwyn yr achos yn erbyn GIG Lloegr.

Mae PrEP yn gallu lleihau’r risg o HIV mewn pobl sy’n wynebu risg uchel o gael eu heintio o fwy na 90%.

Roedd ffrae wedi datblygu ym mis Mawrth eleni ar ôl i GIG Lloegr ddweud na fyddai’n ariannu’r cyffur am ei fod yn wasanaeth ataliol ac mai awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau hynny.

Mae’r barnwr wedi rhoi’r hawl i GIG Lloegr apelio yn erbyn ei ddyfarniad yn y Llys Apêl.

Cyflwyno’r cyffur i Gymru?

Mae ’na alwadau i gyflwyno’r cyffur yng Nghymru hefyd.

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, “mae’n rhaid” i’r cyffur fod ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru.

“Mae angen i’r GIG yng Nghymru wneud y cam cyntaf a chyflwyno PrEP fel mater o frys,” meddai Cadan ap Tomos, llefarydd cydraddoldeb ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Mae treialon clinigol a’i ddefnydd gan wasanaethau iechyd tramor wedi dangos fod gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau datblygu HIV i’r rheiny sy’n cymryd PrEP,” ychwanegodd.

Er hyn, roedd yn cydnabod nad cyflwyno’r cyffur ydy’r unig ateb i fynd i’r afael â HIV.

“Mae angen i Gymru wella ei wasanaethau profi ar frys, ynghyd ag addysg rhyw a pherthnasau, ond mae angen cymryd y cyfle hwn i geisio atal lledaeniad HIV,” meddai.

Dywedodd fod angen i Ysgrifennydd Iechyd Cymru “ddangos arweiniad” a chyflwyno’r cyffur hwn i gleifion yng Nghymru.