Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Fe fydd Theresa May yn parhau i geisio cael perthynas gref gyda China, meddai Downing Street, er gwaetha’r ffaith ei bod wedi oedi cyn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â gorsaf niwclear Hinkley Point.

Roedd penderfyniad munud olaf y Prif Weinidog i oedi’r gwaith er mwyn adolygu’r sefyllfa, wedi synnu’r byd busnes. Mae gan China gyfran o un rhan o dair yn y cynllun gwerth £18 biliwn i adeiladu’r orsaf niwclear yng Ngwlad yr Haf.

Credir bod pryderon am ddiogelwch ynghylch buddsoddiad China mewn prosiect isadeiledd mor sylweddol yn y DU.

‘Amheus’

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Busnes Syr Vince Cable wedi awgrymu, mewn cyfweliad gyda The Sunday Telegraph, bod gan Theresa May “agwedd amheus” tuag at China.

Ond dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog y byddai’n “parhau i geisio adeiladu perthynas gref gyda China oherwydd y rôl sydd gan y wlad mewn materion rhyngwladol, yr economi byd eang a nifer o faterion rhyngwladol eraill.”

Fe allai ffactor arall yn y penderfyniad i oedi’r cynllun fod ynghylch y feirniadaeth sydd wedi bod ynglŷn â’r arian y bydd y cwmni ynni o Ffrainc EDF yn cael eu talu am gynhyrchu ynni – sef £92.50 am bob megawatt o drydan sy’n cael ei gynhyrchu.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud bod y prisiau yn “bryderus” ac mae’n cefnogi cynnal adolygiad o’r sefyllfa.

Ond mae pennaeth EDF, Vincent de Rivaz, wedi ceisio tawelu pryderon gweithwyr gan ddweud ei fod yn deall pam fod Theresa May eisiau rhagor o amser i ystyried y prosiect.

Roedd bwrdd y cwmni wedi rhoi sêl bendith derfynol i’r prosiect hir-ddisgwyliedig ond fe benderfynodd y Llywodraeth oedi cyn arwyddo’r cytundeb, gan ddweud y byddai’n gwneud penderfyniad yn yr hydref.