Mae heddlu De Swydd Efrog yn chwilio hen fragdy, wedi i ddyn yn cario rhywbeth tebyg i wn gael ei weld yn mynd i mewn i’r adeilad.

Mae yna nifer fawr o blismyn wedi crynhoi yn ardal Neepsend Lane, Sheffield, wedi adroddiadau fod dyn wedi’i weld yn mynd i mewn i’r hen fragdy tua 5.15yb heddiw.

“Fe gafodd heddweision eu hanfon yno’n syth,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Mae’r ardal sy’n cael ei chwilio oddi mewn i ffiniau hen adeilad diwydiannol, a’r nod ydi gwneud yn siwr fod y cyhoedd yn ddiogel tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Mae nifer o ffyrdd wedi’u cau, ac fe fydd pethau’n parhau felly trwy gydol y bore nes y bydd y gwaith chwilio ar ben.”