Mae barnwr wedi gwrthod her yn erbyn penderfyniad y blaid Lafur i ganiatáu i Jeremy Corbyn ailsefyll fel arweinydd heb enwebiadau gan ASau.

Roedd achos wedi ei ddwyn ger bron gan Michael Foster sy’n roddwr hael i’r Blaid yn ogystal â bod yn gyn ymgeisydd etholiadol.

Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur o 18 pleidlais i 14 nad oedd rhaid i Jeremy Corbyn ennill enwebiadau ASau ac ASEau’r blaid i ailsefyll.

Croesawodd Jeremy Corbyn benderfyniad y llys gan ddweud bod yr achos yn “wastraff amser ac adnoddau.”

Bu’n rhaid i AS Pontypridd Owen Smith, sy’n herio Jeremy Corbyn am yr arweinyddiaeth, ennill cefnogaeth 20% o ASau ac ASEau y blaid er mwyn sefyll.

Yn y diwedd, cafodd 162 o enwebiadau ar ôl i’r ymgeisydd posib arall, Angela Eagle, benderfynu tynnu ei henw nôl.