Llun: PA
Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cael gwared a 3,000 o swyddi a chau 200 o ganghennau’r banc ar y stryd fawr wrth i’r grŵp baratoi am ostyngiad mewn cyfraddau llog yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y banc y bydd eu cynlluniau i dorri costau a gyhoeddwyd yn 2014 yn cael ei ymestyn a bydd y toriadau newydd yn dod i rym erbyn diwedd 2017.

Mae disgwyl i Fanc Lloegr leihau cyfraddau llog o 0.5% i 0.25% yr wythnos nesaf wrth i ganlyniadau Brexit ddwysáu.

Mae Lloyds eisiau arbed £1.4 biliwn erbyn diwedd y flwyddyn nesaf er bod elw statudol y banc wedi mwy na dyblu i £2.5 biliwn yn hanner cynta’r flwyddyn.

Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf bydd 12,000 wedi colli eu swydd gyda’r banc ers 2014. Yn ogystal, bydd 400 o ganghennau wedi cau gan y banc sydd â 9% ohono’n eiddo i’r Llywodraeth.