Dylai rhwydwaith Openreach BT weithredu fel cwmni ar wahân o fewn Grŵp BT fel rhan o gynlluniau i ddiwygio’r gwasanaeth sydd wedi cael eu cyflwyno gan reoleiddiwr y diwydiant Ofcom.

Ond nid yw’n mynd mor bell ag awgrymu y dylai Openreach gael ei werthu.

Mae ’na bwysau wedi bod ar BT i wahanu Openreach o weddill y cwmni yn dilyn beirniadaeth gan ASau ynglŷn â diffyg buddsoddiad a gwasanaeth gwael.

Ond mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae Ofcom wedi argymell diwygiadau helaeth yn y gwasanaeth bandeang, sy’n cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr fel Sky, TalkTalk, Vodafone a BT Consumer.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys gwneud Openreach yn gwmni ar wahân, gyda bwrdd ei hun, a fyddai’n cynnwys mwyafrif o gyfarwyddwyr sydd ddim yn gysylltiedig â Grwp BT.

Mae hefyd yn argymell mwy o ymgynghori gyda chwsmeriaid ynglŷn â buddsoddiadau sylweddol, y staff sy’n gweithio i Openreach, perchnogaeth o asedau mae’n ei reoli ar hyn o bryd, ei strategaeth a rheolaeth ar ei gyllideb.

Dywedodd Sharon White, prif weithredwr Ofcom eu bod yn bwrw ymlaen gyda’r newidiadau mwyaf i’r diwydiant ers degawd “er mwyn gwneud yn siŵr bod y farchnad yn cynnig y gwasanaethau gorau posib i bobl a busnesau ar draws y DU.”

Mae Ofcom yn gobeithio cael ymatebion i’r cynlluniau erbyn 4 Hydref.