Syr Philip Green
Mae cyn-berchennog BHS, Syr Philip Green, wedi cael ei feirniadu’n chwyrn gan ddau bwyllgor seneddol a ddaeth i’r casgliad ei fod wedi elwa’n fawr o’r siopau tra’n gadael diffyg sylweddol yn y gronfa bensiwn.

Mewn adroddiad hynod feirniadol, mae’r ddau bwyllgor dethol yn cyhuddo’r dyn busnes o geisio rhoi’r bai ar unrhyw un heblaw ei hun am fethiant y cwmni, ac yn dweud bod ganddo “ddyletswydd foesol” i wneud “cyfraniad ariannol sylweddol” i’r gronfa bensiwn.

Tra bod y pwyllgorau hefyd yn ddamniol am Dominic Chappell, a brynodd BHS am £1, maen nhw’n dweud mai Syr Philip Green  sy’n bennaf gyfrifol am fethiant y cwmni.  Dywed yr adroddiad bod Chappell wedi bod “yn hollol anaddas fel prynwr” ond bod Philip Green “wedi gweithredu i gelu gwir broblem cronfa bensiwn BHS” oddi wrtho.

Meddai’r adroddiad bod teulu Syr Philip Green wedi “gwneud ffortiwn” o’r cwmni pan oedd yn broffidiol, tra’n talu ychydig iawn o dreth, ond nad oedd  wedi buddsoddi yn y cwmni ac wedi gwrthod mynd i’r afael a’r diffyg “sylweddol ac anghynaladwy” yn y gronfa bensiwn.

Mae’r adroddiad, gan y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau a’r Pwyllgor Busnes, Arloesedd a Sgiliau, yn un o’r rhai mwyaf damniol i’w gyhoeddi gan bwyllgor Seneddol.

Cafodd BHS ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill eleni, gan roi 11,000 o swyddi yn y fantol.

Fe fydd 30 o siopau BHS yn cau ar 30 Gorffennaf gan gynnwys un yng Nghaerfyrddin, ac roedd 20 o siopau wedi cau eu drysau ar 23 Gorffennaf, gan gynnwys yng Nghasnewydd, ar ol i’r gweinyddwyr fethu a dod o hyd i brynwr. Mae disgwyl i’r siopau eraill gael eu cau yn yr wythnosau nesaf gan gynnwys Caerdydd, Llandudno a Wrecsam.