Mae saith o ddynion wedi’u harestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi marwolaeth dyn 54 oed yn dilyn digwyddiad mewn clwb nos yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i glwb Loveshack yn Durham toc wedi 1yb, wedi galwad yn ymwneud â chwffas rhwng nifer o bobol.

Roedd bownsars wedi dal dau ddyn ac wedi’u hebrwng allan o’r sefydliad, ond roedd hi’n amlwg fod un ohonyn nhw mewn dipyn o wewyr a’i fod yn sâl. Fe alwyd parafeddygon, ac fe gafodd y dyn wedyn ei gludo i Ysbyty Prifysgol Gogledd Durham.

Bu farw rai oriau’n ddiweddarach.