Mae pedair merch yn eu harddegau yn y ddalfa yn Llundain, wedi iddyn nhw gael eu harestio mewn cysylltiad â noson o anhrefn ym mhrifddinas Lloegr yn gynharach yr wythnos hon.

Mae’r merched, sy’n cynnwys dwy 16 oed, un 15 oed ac un 17 oed, yn cael eu holi’n benodol am ddigwyddiadau ym mwyty bwyd cyflym McDonald’s yn Marble Arch.

Mae dau fachgen 16 ac 17 oed, ynghyd â dyn 18 oed, hefyd wedi’u harestio a’u rhyddhau ar fechnïaeth tan ganol mis Medi.

Fe ddaw’r arestiadau wedi i heddlu Scotland Yard ryddhau cyfres o luniau o bobol y maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiadau â’r digwyddiadau lle gafodd tri unigolyn ac un plismon eu trywanu. Fe gafodd ail heddwas ei anafu gan botel a gafodd ei thaflu yn ystod cwffas fawr yn Hyde Park nos Fawrth ddiwetha’.