Mae dau o bobol yn derbyn triniaeth gan barafeddygon ar draeth yn East Anglia.
Mae tair ambiwlans, ambiwlans awyr a chriw y frigâd dân ar y sfale yn Sea Palling ar arfordir sir Norfolk.
Meddai llefaryadd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Dwyrain Lloegr, a gafodd eu galw am 11:4yb heddiw: “Mae’r digwyddiad yn parhau, ac ar hyn o bryd mae yna ddau ddioddefwr sy’n derbyn triniaeth.”
Y gred ydi fod “grwp bychan” o tua deg o bobol wedi bod yn y dwr, pan gafodd rhai eu sgubo allan gan y llanw.