Roy Hodgson wedi ymddiswyddo ar ôl Ewro 2016
Sam Allardyce yw rheolwr newydd tîm pêl-droed Lloegr.

Cafodd penodiad rheolwr 61 oed Sunderland ei gadarnhau gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr brynhawn dydd Gwener.

Wrth i enw Allardyce gael ei grybwyll dros y dyddiau diwethaf i olynu Roy Hodgson, roedd cefnogwyr Lloegr yn dweud ar wefannau cymdeithasol y bydden nhw’n cefnogi Cymraeg pe bai Allardyce yn cael y swydd.

Mae e wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd, ac mae disgwyl i Sunderland ddod i gytundeb am iawndal.

Gêm gyntaf Allardyce wrth y llyw fydd gêm gyfeillgar yn Wembley ar Fedi 1, ond dydy’r gwrthwynebwyr ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.

Bydd ymgyrch Lloegr i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn dechrau yn erbyn Slofacia – un o’u gwrthwynebwyr nhw a Chymru yn Ewro 2016 – ar Fedi 4.