Angus Robertson yn awyddus i sicrhau annibyniaeth i'r Alban fel dirprwy arweinydd yr SNP
Mae’r Alban ar fin ennill annibyniaeth, yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson.

Dywedodd Robertson, sy’n ymgyrchu i fod yn ddirprwy arweinydd y blaid, fod rhaid canolbwyntio ar ddarbwyllo pobol y wlad mai annibyniaeth yw’r peth cywir i’r wlad.

Mae’r arweinydd Nicola Sturgeon wedi awgrymu bod y blaid yn paratoi ar gyfer ail refferendwm – ond dim ond os nad oes modd dod o hyd i ffordd arall o gadw’r Alban o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Robertson ei fod yn barod i “gyflawni’r nod o sicrhau annibyniaeth”.

“Mae gan ddirprwy arweinydd yr SNP ran fawr wrth sicrhau bod hyn yn digwydd – gan ddatblygu ein polisi, strategaeth a thactegau i ennill.”

Dywedodd ei fod yn awyddus i sicrhau cefnogaeth 5,000 o bobol er mwyn cael rhedeg fel ymgeisydd ar gyfer y dirprwy arweinyddiaeth.

Alyn Smith yw un o brif wrthwynebwyr Robertson am y dirprwy arweinyddiaeth.

Yr ymgeiswyr eraill yw Tommy Sheppard a Christopher McEleny.