Colofn Kelvin MacKenzie yn y Sun wedi'i beirniadu
Mae colofnydd y Sun, Kelvin MacKenzie wedi amddiffyn ei feirniadaeth o raglen newyddion Channel 4 ar ôl i ohebydd wisgo hijab wrth ohebu ar y gyflafan yn Ffrainc yn ddiweddar.

Dywedodd MacKenzie ei bod yn “rhesymol” beirniadu’r rhaglen gan fod gwisgo’r hijab yn “ddatganiad crefyddol”, gan gwestiynu a fyddai Cristion yn cael gwisgo’r groes ar y teledu.

Cafodd mwy na 1,700 o gwynion eu gwneud i Ipso ddydd Llun ac fe gafodd y golofn am Fatima Manji ei beirniadu gan aelodau seneddol.

Gofynnodd MacKenzie: “A oedd hi’n briodol iddi fod o flaen y camera pan oedd llofruddiaeth erchyll arall wedi bod gan Fwslim?”

Cafodd y sylwadau eu beirniadu gan Channel 4 fel rhai “sarhaus” a “chwbl annerbyniol”, gan awgrymu eu bod yn “ennyn casineb crefyddol a hiliol, hyd yn oed”.

Ond dywedodd MacKenzie yn ei golofn ddiweddaraf ei fod e’n gofyn cwestiwn “syml” a’i fod yn gwneud “ymholiad rhesymol”.

Cyhuddodd y “Twerperati” – defnyddwyr y wefan gymdeithasol Twitter – o greu “dadl genedlaethol”.

‘Gwahaniaethu ar sail crefydd’

Wrth ymateb, dywedodd golygydd newyddion Channel 4, Ben de Pear fod MacKenzie yn euog o “wahaniaethu ar sail crefydd” yn erbyn y newyddiadurwraig.

Cadarnhaodd fod Manji wedi cwyno wrth Ipso am y golofn.