Bydd y chwilio’n parhau am gyrff tri o weithwyr gorsaf bŵer Didcot yn Swydd Rydychen ddydd Sul ar ôl i weddill yr adeilad gael ei ddymchwel.

Roedd Chris Huxtable, 34 o Abertawe, ymhlith y tri na chafwyd hyd i’w cyrff ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd o dan 20,000 tunnell o rwbel pan syrthiodd yr adeilad yn annisgwyl ar Chwefror 23.

Y ddau arall aeth ar goll oedd Ken Cresswell, 57, a John Shaw, 61, o Rotherham yn Ne Swydd Efrog.

Bu farw pedwar o bobol i gyd, ond dim ond corff Michael Collings, 53, a gafodd ei dynnu allan.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi i’r adeilad syrthio.

Cafodd gweddill yr adeilad ei ddymchwel toc ar ôl 6 o’r gloch fore Sul.

Ar y pryd, roedd yr adeilad yn rhy ansefydlog i geisio mynd i mewn i ddod o hyd i’r cyrff, a chafodd parth 50 metr ei osod o amgylch yr adeilad.

Mae disgwyl i robotiaid gael eu defnyddio i orffen y gwaith.