Jo Cox
Bydd angladd yr Aelod Seneddol Llafur Jo Cox heddiw yn ei hetholaeth yng ngorllewin Swydd Efrog.

Fe gafodd y fam i ddau blentyn ifanc ei saethu a’i thrywanu tu allan i’r syrjeri lle bu’n cynnal cyfarfodydd gyda’i hetholwyr yn Batley a Spen.

Nid yw manylion yr angladd wedi eu cyhoeddi ond mae’r cyhoedd wedi cael ar ddeall y bydd dau le ar hyd y daith angladdol lle y gallan nhw dalu teyrnged.

Bu farw Jo Cox ar Fehefin 16 yn dilyn ymosodiad tu allan i lyfrgell yn Birstall.

Roedd Jo Cox wedi bod yn Aelod Seneddol am flwyddyn, wedi ei hethol i gynrychioli’r etholaeth lle y cafodd ei magu.

Mae Thomas Mair, 52, wedi ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain ac wedi ei gyhuddo o lofruddio Jo Cox.

Mae’n parhau yn y ddalfa a’r disgwyl yw y bydd ei achos yn cael ei gynnal fis Tachwedd.