Yr Arglwydd John Prescott
Mae’r Arglwydd John Prescott wedi syrthio ar ei fai am ei ran yn rhyfel Irac.

Dywed y dyn a oedd yn ddirprwy brif weinidog Prydain ar y pryd ei fod yn derbyn bellach fod y rhyfel yn anghyfreithlon.

Daw ei sylwadu ddyddiau’n unig ar ôl cyhoeddi adroddiad ymchwiliad Syr John Chilcot i’r rhyfel yn 2003.

“Fe fyddaf yn byw gyda’r penderfyniad i fynd i ryfel a’i ganlyniadau trychinebus am weddill fy oes,” meddai’r Arglwydd Prescott mewn erthygl yn y Sunday Mirror heddiw.

“Yn 2004, fe ddywedodd ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, fod y rhyfel yn anghyfreithlon.

“Gyda thristwch mawr a dicter, dw i’n credu bellach ei fod yn iawn.

“Fel y dirprwy brif weinidog yn y Llywodraeth honno, dw i’n mynegi fy ymddiheuriad llawn, yn enwedig i deuluoedd y 179 o ddynion a merched a roddodd eu bywydau yn rhyfel Irac.”

Dywed hefyd ei bod yn croesawu penderfyniad Jeremy Corbyn i ymddiheuro ar ran y Blaid Lafur am y rhyfel.