Cliff Richard (Jpmawet CCA 3.0)
Mae’r canwr Syr Cliff Richard yn dwyn achos yn erbyn y BBC a Heddlu De Swydd Efrog ar ôl i gyrch yr heddlu ar ei gartref gael ei ddarlledu ar deledu byw.

Mae’n honni bod cydweithredu anghyfreithlon wedi bod rhwng yr heddlu a’r BBC wrth ddangos y cyrch.

Cafodd plismyn a oedd yn ymchwilio i hen droseddau rhywiol eu ffilmio yn chwilio trwy fflat Cliff Richard yn Berkshire ym mis Awst 2014, gan arwain iddo gael ei enwi’n gyhoeddus.

Ni chafodd erioed ei arestio na’i gyhuddo, a chafodd yr achos ei ollwng gan Wasanaeth Erlyn y Goron y mis diwethaf ar sail diffyg tystioliaeth.

Mae’r BBC a Heddlu De Swydd Efrog wedi ymddiheuro i’r canwr 75 oed, ond dywed fod yr ymosodiad ar ei breifatrwydd o ganlyniad i’r “cydweithredu anghyfreithlon” wedi dwyn anfri arno ac effeithio ar ei iechyd.

Mae’n hawlio £1 miliwn o iawndal.

Mae ei gyfreithwyr wedi ysgrifennu at y ddau sefydliad i gychwyn y broses gyfreithiol.