Mae dyn 50 oed wedi ei ddirwyo £600 am droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus, trwy wisgo crys yn sarhau’r 96 o gefnogwr pêl-droed a fu farw yn nhrychineb Hillsborough yn 1989.

Fe ddywedodd Paul Grange wrth Lys Ynadon Caerwrangon fod ganddo gywilydd o’r hyn a wnaeth: “Oherwydd fy ngweithredoedd, rwyf wedi colli fy nghartref, fy ngwaith, fy ffrindiau… ac mae hynny’n haeddiannol.”

Roedd y slogan ar ei grys-t yn disgrifio trychineb 1989 fel ffordd Duw o helpu cwmni i reoli pla.

Fe blediodd Paul Grange yn euog i’r cyhuddiad o ddangos slogan ymosodol a fyddai’n debygol o greu trallod, ac fe gafodd ei orchymyn i dalu dirwy o £60 i ddioddefwr a £135 o gostau.

Yn cynrychioli ei hun yn y llys, dywedodd Paul Grange ei fod yn awr yn sylweddoli fod y slogan ar ei grys-t wedi achosi poen.

Bu ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol i’r crys-t a wisgodd Paul Grange mewn gardd gwrw ar ddydd Sul Mai 29.

Fe glywodd y llys ddatganiad gan ddynes a gafodd ei heffeithio gan y slogan ar y crys-t. Bu farw ei brawd yn nhrychineb Hillsborough.