Chris Evans Llun: BBC Radio 2
Mae Chris Evans wedi camu o’i swydd fel cyflwynydd Top Gear gan ddweud ei fod wedi gwneud ei orau “ond nid yw hynny bob amser yn ddigon.”

Fe gyhoeddodd y cyflwynydd teledu a radio ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ôl un gyfres yn unig, wrth i nifer y gwylwyr ostwng o dan ddwy filiwn.

Dywedodd Chris Evans ar ei gyfrif Twitter fod tîm Top Gear yn “wych” a’i fod yn dymuno’r gorau iddyn nhw.

“Rwy’n teimlo mai camu i’r neilltu yw’r peth gorau alla’i wneud nawr i helpu’r achos,” meddai mewn datganiad.

“Rwy’n parhau’n gefnogwr brwd o’r sioe,” ychwanegodd gan ddweud ei fod am ganolbwyntio ar ei sioe ar Radio 2 a’r digwyddiadau sy’n cwmpasu hynny.

Mae Top Gear wedi’i chael hi’n anodd denu gwylwyr ers i Chris Evans fod wrth y llyw.

Fe lansiodd y rhaglen ar 29 Mai gyda 4.4 miliwn o wylwyr. Erbyn yr ail raglen roedd nifer y gwylwyr wedi gostwng i 2.8 miliwn ac nid yw wedi llwyddo i ddenu mwy na hynny.

Roedd Evans a’i gyd-gyflwynwyr Matt LeBlanc a Sabine Schmitz wedi olynu Jeremy Clarkson, James May a Richard Hammond, a oedd wedi gadael y BBC ar ôl i Clarkson gael ei ddiswyddo yn dilyn “ffrwgwd” gyda chynhyrchydd.

Ar y pryd roedd gan Top Gear 5.8 miliwn o wylwyr. Fe fydd y tri chyflwynydd yn lansio eu rhaglen newydd The Grand Tour ar Amazon Prime yn yr hydref.