Mae’r heddlu wedi cael gwybod am 331 o achosion o hiliaeth yn ystod yr wythnos ers i Brydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd – pum gwaith yn fwy na’r cyfartaledd wythnosol.

Ychydig tros 60 o droseddau yw’r cyfartaledd wythnosol, yn ôl ystadegau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ond roedd bron 50 bob dydd yn ystod yr wythnos  ddiwetha’, yn ôl gwefan True Vision.

Fe awgrymodd Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, Sara Thornton, y gallai fod mwy o bobol yn rhoi gwybod am droseddau oherwydd y cynnydd mewn sylw i’w pwnc.

Ac fe ychwanegodd nad oes modd mesur faint yn union o achosion sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r refferendwm Ewropeaidd.

Beirniadu

Daw’r ystadegau ar y diwrnod y mae Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Greater Manchester wedi dweud ei fod yn gofidio nad yw achosion o sarhad hiliol yn cael eu hadrodd wrth yr heddlu.

Gwnaeth Ian Pilling ei sylwadau ar ôl i fideo ymddangos o gyn-filwr Americanaidd, Juan Jasso, sydd bellach yn ddarlithydd yn y ddinas, yn cael ei sarhau yn hiliol ar dram.

Cafodd tri o bobol eu harestio yn dilyn y digwyddiad hwnnw.

Mewn datganiad, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl: “Bydd nifer o bobol yn ein cymunedau yn teimlo’n bryderus nawr o ganlyniad i’r ymdeimlad fod nifer fach o bobol yn defnyddio digwyddiadau diweddar i ddilysu, yn annheilwng, eu safbwyntiau sy’n llawn casineb.”

Condemnio

Yn y cyfamser, mae arweinydd Moslemaidd wedi beirniadu ymgyrchwyr tros adael yr Undeb Ewropeaidd am beidio â beirniadu achosion o hiliaeth.

Yn ôl Qari Asim, imam mewn mosg yn Leeds, roedd cynnydd o 326% yn nifer yr achosion o hiliaeth yn erbyn Moslemiaid yng ngwledydd Prydain yn 2015, ac mae’n gofidio y gallai ‘Brexit’ arwain at gynnydd pellach.

“Yr hyn sydd wedi ypsetio fwyaf ac sy’n achosi’r pryder mwyaf yw na fu unrhyw ddatganiadau ar unwaith gan arweinwyr yr ymgyrch tros adael yn condemnio’r fath ddigwyddiadau senoffobig a hiliol.”

Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog wedi apelio ar ôl i ddynes o Sweden gael ei sarhau yng Nghaerefrog pan oedd hi gyda’i phlant ifanc ar y stryd fawr.