Angela Eagle - ddim am gyhoeddi heddiw (Keywinchet139 Trwydded Llywodraeth Agored v1.0)
Fydd yr aelod seneddol Llafur Angela Eagle ddim yn cyhoeddi heddiw ei bod hi am herio arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, yn ôl ffynonellau yn y blaid.

Roedd disgwyl y byddai llefarydd y blaid dros fusnes yn gwneud datganiad mewn cynhadledd i’r wasg.

Fodd bynnag, dywedodd ffynonellau ei bod wedi penderfynu oedi oherwydd y datblygiadau sydd wedi bod yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

Her ‘yn debygol’

Dywedodd un ffynhonnell ei bod hi yn debygol o hyd y bydd hi’n herio Corbyn rhyw bryd gan ei bod hi eisoes wedi derbyn y 50 o enwebiadau gan ASau ac ASEau Llafur – y cyfanswm sydd ei angen i ddechrau’r broses yn ôl reolau’r blaid.

Roedd rhai gwleidyddion Llafur wedi gobeithio perswadio Jeremy Corbyn i ymddiswyddo – o wneud hynny, fe fyddai’n rhaid iddo yntau gael ei enwebu gan hyn a hyn o ASau pe bai eisiau sefyll eto.

Ond os bydd Angela Eagle yn ei herio ac yntau yn swydd yr arweinydd, mae rheolau’r blaid yn awgrymu y byddai’n gallu sefyll yn otomatig.