Boris Johnson a Theresa May Llun: PA
Fe fydd y ddau geffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, Boris Johnson a Theresa May, yn cyflwyno’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol Prydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd heddiw ar ôl iddyn nhw ymuno a’r ras yn ffurfiol i olynu David Cameron.

Mae disgwyl i Boris Johnson, fu’n arwain yr ymgyrch dros adael yr UE yn ymgyrch y refferendwm, ddefnyddio ei lansiad i gyflwyno’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel “gweledigaeth optimistaidd, bositif” o Brydain y tu allan i’r Undeb.

Wrth lansio ei hymgyrch, fe fydd Theresa May, a oedd wedi ymgyrchu dros aros yn yr UE,  yn rhoi addewid i uno’r Blaid Geidwadol a’r wlad yn sgil canlyniad y refferendwm tra’n ceisio sicrhau’r cytundeb oriau i’r DU yn y trafodaethau gyda Brwsel.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref yn amlinellu ei chynlluniau i sefydlu adran newydd yn y llywodraeth a fydd a’r dasg o drafod yr ysgariad rhwng Prydain a’r UE. Mae disgwyl i’r adran gael ei harwain gan weinidog oedd wedi ymgyrchu o blaid Brexit.

Arolwg – ‘May yw’r ceffyl blaen’

Yn ol arolwg barn gan YouGov ar gyfer The Times, a oedd wedi holi 1,000 o aelodau’r Blaid Geidwadol, Theresa May yw’r ceffyl blaen gyda 36%, a Boris Johnson yn ail gyda 27%.

Yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Stephen Crabb a’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox yw’r ddau ymgeisydd arall sydd wedi ymuno a’r ras am yr arweinyddiaeth.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt a’r Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan wedi awgrymu y byddan nhw hefyd yn sefyll, ac mae ganddyn nhw hyd at hanner dydd heddiw i ymgeisio’n ffurfiol.

Mae disgwyl i Brif Weinidog newydd gael ei benodi ar 9 Medi.