Kayleigh Haywood Llun: Heddlu Swydd Gaerlyr
Mae dyn wedi’i gael yn euog o ddal merch 15 oed, a gafodd ei llofruddio, yn gaeth yn ei gartref.

Yn Llys y Goron Nottingham, cafwyd Luke Harlow yn euog o garcharu Kayleigh Haywood ar gam.

Ddoe, cafwyd ei llofrudd Stephen Beadman, yn euog o’r un cyhuddiad.

Mae Beadman, a oedd eisoes wedi cyfaddef ei threisio a’i llofruddio, yn wynebu dedfryd o garchar am oes.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu, ynghyd a Harlow, ddydd Gwener.

Roedd Harlow, 28,  a Beadman, 29, a oedd yn gymdogion yn Ibstock, yn Swydd Gaerlŷr, wedi gwadu carcharu Kayleigh Haywood ar gam am chwe awr cyn iddi gael ei threisio a’i lladd ar dir fferm ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd Harlow eisoes wedi cyfaddef meithrin perthynas amhriodol gyda Kayleigh ar Facebook at ddibenion rhyw, ynghyd a dau drosedd o weithred rywiol gyda phlentyn, cyn i’r achos ddechrau.

‘Cyfryngau cymdeithasol’

Fe fu Kayleigh Haywood o Measham, Swydd Gaerlŷr mewn cysylltiad â Harlow ar gyfryngau cymdeithasol cyn iddi ei pherswadio i deithio i’w gartref ar ddydd Gwener, 13 Tachwedd.

Cafodd ei lladd gan Beadman, a ddywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi ei tharo gyda bricsen, yn ystod oriau man 15 Tachwedd wrth iddi geisio dianc o gartref Harlow.

Pan oedd yr ymchwiliad yn ei anterth, fe fu 300 o swyddogion yr heddlu a gwirfoddolwyr yn rhan o’r chwilio am Kayleigh. Cafwyd hyd i’w chorff wedi’i guddio mewn gwrych ger nant.

‘Bygythiad gwirioneddol’

Cyn yr achos roedd Harlow hefyd wedi pledio’n euog i gyhuddiad o geisio cwrdd â merch arall 15 oed ar ôl meithrin perthynas amhriodol a hi’r llynedd, a cheisio cwrdd â thrydedd ferch rhwng mis Mawrth 2013 a Mawrth 2014.

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd David Sandall, o Heddlu Swydd Gaerlŷr, bod yr achos yn dangos “y bygythiad gwirioneddol” sy’n wynebu plant pan maen nhw’n siarad â dieithriaid ar y we.

“Fy unig obaith yw y gallwn ni, fel rhieni, gymryd sylw o’r hyn a ddigwyddodd i Kayleigh. Mae’n rhaid i ni ddeall bod yna bobol o fewn ein cymunedau sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddenu, a dal, plant. Maen nhw yn lleiafrif bach iawn. Ond yn anffodus, maen nhw yn bodoli.”