y Canghellor George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi ceisio lleddfu ofnau’r marchnadoedd arian y bore ma yn sgil y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd (EU).

Mewn cynhadledd newyddion cyn i’r marchnadoedd arian agor fore Llun, dywedodd Osborne bod her fawr o’n blaenau o’n bod y Llywodraeth wedi cynllunio ar gyfer canlyniad annisgwyl.

Bu’n amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn “diogelu’r buddiannau cenedlaethol” yn dilyn canlyniadau’r refferendwm. Ychwanegodd bod yr economi yn “sylfaenol gadarn” ond fe fydd yn rhaid addasu, meddai.

Nid oedd son am gynnal Cyllideb frys i gyflwyno toriadau a chodi trethi fel yr oedd wedi bygwth yn y dyddiau cyn y refferendwm. Mae’n debyg y bydd hynny’n digwydd yn yr hydref pan fydd Prif Weinidog newydd yn cymryd yr awenau.

Dywedodd hefyd y byddai’n gwneud datganiad ynglŷn â’i rôl o fewn y Blaid Geidwadol “yn y dyddiau nesaf”.

Boris – ’dim rhuthr mawr’ i adael yr UE

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad David Cameron ddydd Gwener i ymddiswyddo yn yr Hydref gan arwain at gystadleuaeth am ei olynydd. Mae Boris Johnson, fu’n arwain yr ymgyrch dros adael yr UE, wedi dweud bod angen codi pontydd er mwyn ceisio lleddfu’r rhwygiadau o fewn y blaid.

Nid yw Johnson wedi taflu ei enw i’r het yn swyddogol hyd yn hyn ond yn ei golofn yn y Daily Telegraph, dywedodd mai dim ond  o “fwyafrif bychan” y gwnaeth pobl bleidleisio dros adael Ewrop a bod yn rhaid ceisio lleddfu pryderon yr 16 miliwn o bobl oedd am aros yn yr UE.

Ychwanegodd na fydd “rhuthr mawr” i adael yr Undeb ac y byddai’n “gyfle euraidd” i’r wlad i “basio deddfwriaeth a gosod trethi yn ôl gofynion y DU.”

Ond mae arweinwyr yr UE yn mynnu y dylai’r DU adael yr Undeb mor fuan â phosib.

Yn y cyfamser mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry ymweld â Llundain a Brwsel heddiw ar gyfer trafodaethau ynglŷn ag effaith canlyniad y refferendwm.

Ac mae gweinidog cyllid China, Lou Jiwei, wedi dweud bod y bleidlais ddydd Iau “wedi taflu cysgod dros yr economi ryngwladol” ac y bydd effeithiau Brexit i’w teimlo am flynyddoedd i ddod.

Mae’r  FTSE 100 wedi gostwng 0.82% wrth ddechrau masnachu’r bore ma, wrth i effeithiau canlyniad Brexit barhau i daro’r farchnad stoc.