Sturgeon yn barod i wrthryfela?
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi rhybuddio y gallai llywodraeth y wlad atal Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf canlyniad y refferendwm.

Dywedodd Sturgeon ei bod hi’n barod i ystyried gofyn i aelodau seneddol yr Alban wrthwynebu’r canlyniad yn ffurfiol ar ôl i’r mwyafrif o Albanwyr (62%) bleidleisio i aros.

Dywedodd Sturgeon y byddai hi’n “ei gael yn anodd credu” na fyddai angen sêl bendith yr Alban cyn ffurfioli’r canlyniad.

Ond yn ôl Ysgrifennydd yr Alban, David Mundell, dydy’r wlad ddim mewn sefyllfa i’w wrthwynebu.

Ar raglen Sunday Politics Scotland y BBC, dywedodd Nicola Sturgeon: “O edrych ar y peth o berspectif rhesymegol, rwy’n ei gael yn anodd credu na fyddai yna ofyniad, rwy’n rhagweld y bydd gan Lywodraeth y DU safbwynt gwahanol iawn a bydd rhaid i ni weld beth fydd pen draw’r drafodaeth honno.”

Dywedodd Sturgeon y byddai hi’n “gwneud yr hyn sy’n iawn i’r Alban”, gan gyfaddef ei bod hi’n gallu rhagweld y “cynddaredd” y byddai penderfyniad o’r fath yn ei achosi.

“Mae o bosib yn debyg i gynddaredd pobol yr Alban nawr wrth i ni wynebu cael ein tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ein hewyllys.”