Byddai gwrthod yr hawl i gynnal ail refferendwm yn "annerbyniol", medd Sturgeon
Byddai gwrthod yr hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn “annerbyniol”, yn ôl Prif Weinidog y wlad, Nicola Sturgeon.

Dywedodd Sturgeon fod yr Alban wedi pleidleisio’n “sylweddol” o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a’i bwriad nawr yw cynnal trafodaethau â Brwsel i gynnal perthynas yr Alban â’r sefydliad “dros y dyddiau nesaf”.

Ond dywedodd y byddai gan y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd – o 52% i 48% – “ganlyniadau hynod niweidiol a phoenus” i’r Alban, wrth i 62% o Albanwyr bleidleisio i aros yn rhan o’r sefydliad.

Dywedodd Nicola Sturgeon wrth raglen Peston on Sunday ar ITV: “Os yw Senedd yr Alban yn pleidleisio o blaid cynnal refferendwm arall o dan amgylchiadau lle ry’n ni’n credu mai dyna’r unig beth allwn ni ei wneud i ddiogelu ein buddiannau yna mae hi’n annirnadwy y byddai senedd San Steffan, sydd wedi ein taflu ni i mewn i’r sefyllfa yma, yn ceisio atal hynny, a byddwn i’n rhybuddio unrhyw brif weinidog, presennol neu’r dyfodol, rhag gwneud hynny.”

Gwnaeth Sturgeon ei sylwadau wrth i ddau bôl piniwn newydd ddangos bod y rhan fwyaf o Albanwyr yn cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Panelbase, byddai 52% o’r boblogaeth yn pleidleisio o blaid annibyniaeth mewn ail refferendwm.

Dywedodd ScotPulse y byddai 59% yn pleidleisio o blaid annibyniaeth.