Diwrnodau prysur o flaen John Kerry wrth iddo deithio i Ewrop
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry deithio i Frwsel ac i Lundain am drafodaethau yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth i wledydd Prydain ddygymod â’r penderfyniad i adael y sefydliad, dydy effaith y bleidlais i adael ar weddill y byd ddim yn glir eto.

Mae disgwyl i Kerry gyfarfod â phrif weinidog Israel Benjamin Netanyahu yn Rhufain ddydd Sul cyn cyfarfod â chynrychiolwyr o lywodraeth yr Eidal.

Ddydd Llun, mae disgwyl i Kerry fynd i’r afael â’r refferendwm ond does dim disgwyl iddo gynnig unrhyw atebion i argyfwng posib ledled Ewrop.

Fe fydd yn teithio i Frwsel ddydd Llun i drafod y sefyllfa â phennaeth polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd, Federica Mogherini, cyn mynd i Lundain i gyfarfod ag Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Philip Hammond.

Mae disgwyl i’r trafodaethau rhwng Kerry a Hammond ganolbwyntio ar “berthynas arbennig” y ddwy wlad â’i gilydd.

Ym mis Ebrill, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama y byddai’n rhaid i Brydain aros am gytundebau masnach pe baen nhw’n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond ers y bleidlais, mae Obama wedi datgan na fydd perthynas yr Unol Daleithiau a Phrydain yn newid yn sgil y canlyniad.