Hilary Benn wedi bod yn ceisio annog ASau Llafur i gael gwared ar Jeremy Corbyn
Mae Hilary Benn wedi cael ei ddiswyddo gan arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Roedd y llefarydd tramor wedi mynegi pryder am arweinyddiaeth Corbyn, gan ddweud bod “pryder eang” ymhlith y blaid na fyddai’n gallu ennill etholiad yn dilyn ymddiswyddiad y Prif Weinidog, David Cameron.

Dywedodd Benn fod angen arweinydd cryf ar  y blaid ar adeg mor dyngedfennol yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn datganiad, fe ddywedodd: “Daeth hi’n amlwg bellach fod pryder eang ymhlith ASau Llafur ac yn y cabinet cysgodol ynghylch arweinyddiaeth Jeremy Corbyn o’n plaid.

“Yn benodol, does dim hyder yn ein gallu i ennill yr etholiad nesaf, a allai ddod dipyn cynt na’r disgwyl pe bai Jeremy yn parhau’n arweinydd.

“Ar adeg dyngedfennol i’n gwlad, yn dilyn canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, mae angen arweiniad cryf ac effeithiol o’r Blaid Lafur sy’n gallu ennill cefnogaeth y cyhoedd fel y gallwn ni sefyll i fyny dros bobol Prydain.”

Dywedodd Benn ei fod e wedi colli ei le yn y cabinet cysgodol ar ôl mynegi’r pryderon hyn mewn sgwrs ffôn â Corbyn, a chafodd hyn ei gadarnhau gan lefarydd y blaid.

Roedd adroddiadau hefyd fod Benn wedi bod mewn cyswllt â nifer o aelodau seneddol Llafur i geisio eu cefnogaeth i herio’r arweinydd a dangos diffyg hyder ynddo.

Mae lle i gredu bod Benn yn bwriadu gofyn i Corbyn ymddiswyddo, a’i fod wedi gofyn i aelodau blaenllaw o’r cabinet cysgodol i ymddiswyddo pe na bai Corbyn yntau’n barod i fynd.

Mae rhai aelodau seneddol Llafur wedi beirniadu penderfyniad Corbyn i ddiswyddo Benn.

Ceidwadwyr

Yn y cyfamser, mae nifer o Geidwadwyr blaenllaw yn paratoi i gyflwyno’u henwau i olynu David Cameron fel Prif Weinidog Prydain, tra bod carfan o aelodau seneddol wedi lansio ymgyrch ‘Stopiwch Boris’.

Bydd Cameron yn camu o’r neilltu erbyn mis Hydref, ac mae pwyso ar Brydain erbyn hyn i adael Brwsel ar unwaith.

Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May sy’n arwain yr ymgyrch yn erbyn Boris Johnson, ond mae rhai o aelodau’r blaid yn gwadu honiadau bod y Canghellor George Osborne yn ceisio newid rheolau’r blaid er mwyn niweidio gobeithion Johnson o ddod yn Brif Weinidog.

Yn ôl y Sunday Times, mae Osborne yn ceisio sicrhau bod rhaid i ymgeisydd benywaidd fod ar y rhestr o ddau cyn i aelodau’r blaid benderfynu pwy fyddai’r arweinydd newydd.

Mae enwau Nicky Morgan a Stephen Crabb hefyd wedi cael eu crybwyll fel arweinwyr posib.