Dywed Jeremy Corbyn ei fod am frwydro i ddal gafael ar ei swydd fel arweinydd Llafur er gwaethaf pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn yr wythnos nesaf.
Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae wedi cael ei feirniadu gan lawer o Aelodau Seneddol ei blaid am ei berfformiad yn ymgyrch y refferendwm.
Wrth gyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn ymysg ASau Llafur, gobaith y Fonesig Margaret Hodge fyddai tanseilio ei hygrededd a’i orfodi i ymddiswyddo cyn etholiad cyffredinol tebygol yn yr hydref.
Ond dywed Jeremy Corbyn y byddai’n barod i sefyll eto mewn etholiad lle byddai holl aelodau Llafur yn cael cymryd rhan.
“Mae yna bobl yn y Blaid Lafur Seneddol sy’n debygol o fod eisiau rhywun arall yn arweinydd, ac maen nhw wedi gwneud hyn yn glir dros y dyddiau diwethaf,” meddai.
“Ond dw i wedi cael fy rhyfeddu o weld mwy na 100,000 o bobl sydd wedi arwyddo deiseb yn galw ar imi aros.”