(llun: PA)
Roedd addysg, dosbarth ac ymwybyddiaeth – yn ogystal ag oedran – yn ffactorau arwyddocaol yn y ffordd y pleidleisiodd pobl ddydd Iau.

Fe fu’r Arglwydd Ashcroft yn holi 12,369 o bobl ar ôl iddyn nhw bleidleisio ddydd Iau, ac yn debyg i’r hyn a ddangosodd arolygon eraill, gwelodd fod mwyafrif o bobl o dan 45 wedi pleidleisio i aros a’r mwyafrif dros 45 wedi cefnogi Brexit.

Roedd gwahaniaethau clir hefyd yn ôl cymwysterau addysgol, gyda 57% o’r rhai â gradd prifysgol a 64% o ran â gradd uwch, ac 81% o’r rhai a oedd yn dal mewn addysg llawn-amser, wedi pleidleisio dros aros yn Ewrop. O blith y rhai na chafodd unrhyw addysg ffurfiol ar ôl ysgol uwchradd, roedd mwyafrif mawr wedi pleidleisio dros adael.

Roedd 57% o bobl dosbarth cymdeithasol AB (rheolwyr a gweithwyr proffesiynol) wedi pleidleisio dros aros, ac roedd y bleidlais yn weddol gyfartal ymysg crefftwyr medrus dosbarth C1. O blith y grwpiau is C2DE fodd bynnag, roedd y bleidlais Brexit yn 64%.

Roedd y mwyafrif o bobl mewn gwaith llawn-amser neu ran-amser wedi pleidleisio i aros, ond mwyafrif y rhai nad oedd yn gweithio wedi pleidleisio i adael.

Roedd tua 55% o bobl mewn tai rhent preifat, neu oedd a morgais, wedi pleidleisio dros aros, ond 55% o’r rhai a oedd yn berchen llwyr ar eu tai wedi cefnogi Brexit. Roedd tua dau draean o denantiaid tai cyngor a chymdeithasau tai wedi pleidleisio dros adael.

Ymwybyddiaeth genedlaethol

Mae gwahaniaethau clir i’w gweld yn Lloegr rhwng pobl sy’n ystyried eu hunain yn Saeson yn bennaf a’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr.

O blith y rhai sy’n disgrifio’u hunain fel ‘Saeson ac nid Prydeinwyr’, roedd 79% wedi pleidleisio dros adael Ewrop, a 66% o’r rhai sy’n disgrifio’u hunain fel ‘mwy o Saeson nag o Brydeinwyr’. Roedd y canrannau bron hanner a hanner ymysg y rhai sy’n disgrifio’u hunain fel ‘Saeson a Phrydeinwyr fel ei gilydd’.

Roedd y stori’n gwbl wahanol ymysg y garfan arall, gyda 63% o’r rhai a oedd yn ‘fwy o Brydeinwyr nag o Saeson’, a 60% o’r rhai a oedd yn ‘Brydeinwyr, nid Saeson’ wedi pleidleisio dros aros.

Yn y ffigurau am yr Alban, nid oedd y gwahaniaethau mor drawiadol, gyda 55% o’r rhai a bleidleisiodd dros aros yn disgrifio’u hunain fel ‘Albanwyr ac nid Prydeinwyr’ neu ‘mwy o Albanwyr a Phrydeinwyr’. Y ffigur cyfatebol ymhlith y rhai a bleidleisiodd dros adael oedd 46%. Nid oes ffigurau tebyg ar gael ar gyfer Cymru.