Nigel Farage - wedi cyfaddef celwyddau ymgyrch Brexit (llun: PA)
Mae gair newydd wedi cael ei fathu ers y bleidlais Brexit dydd Iau – sef ‘Bregret’.

Mae niferoedd cynyddol o gefnogwyr Brexit wedi cyfaddef eu bod nhw’n difaru ar ôl gweld oblygiadau eu pleidlais.

Maen nhw’n cyfaddef eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad, ar ôl credu na fyddai eu pleidlais yn gwneud dim gwahaniaeth.

“Byddai’n dda gen i gael y cyfle i bleidleisio eto,” meddai Mandy Suthi, myfyrwraig a bleidleisiodd dros adael, a ychwanegodd ei bod yn “siomedig iawn” gyda’r canlyniad.

Un arall sy’n difaru’r ffordd a bleidleisiodd yw Khembe Gibbons, achubwraig o Bury St Edmunds. Dywedodd ei bod yn teimlo iddi gael ei thwyllo ar ôl i Nigel Farage gyfaddef mai “camgymeriad” oedd honni y byddai £350 miliwn yr wythnos yn mynd at y Gwasanaeth Iechyd yn lle i’r Undeb Ewropeaidd.

“Rydym wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae David Cameron wedi ymddiswyddo, rydym wedi cael ein gadael gyda Boris, ac mae Nigel wedi dweud mai celwydd oedd yr honiad am y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

“Fe wnes i bleidleisio gan gredu’r celwyddau hyn, a dw i’n difaru am hyn yn fwy na dim. Dw i’n teimlo fy mod i wedi cael fy amddifadu o’m pleidlais.”

Cyfaddefodd pleidleisiwr arall o’r enw Adam wrth y BBC nad oedd wedi rhagweld canlyniadau pleidleisio dros adael.

“Mae’n sioc i mi ein bod wedi pleidleisio i adael, wnes i ddim meddwl y byddai’n digwydd,” meddai. “Doeddwn i ddim yn meddwl fod fy mhleidlais i’n gwneud llawer o wahaniaeth oherwydd ro’n i’n meddwl ein bod ni am aros.”

Mae cannoedd bellach yn arddel y gair ‘Bregret’ ar gyfryngau cymdeithasol.