Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn wedi canslo trip i ŵyl Glastonbury yn sgîl Brexit.

Roedd disgwyl i arweinydd Llafur areithio ddydd Sul mewn digwyddiad o’r enw ‘Jezz We Can: Jeremy Corbyn in Conversation’.

Dywedodd ei lefarydd y bydd yn “canolbwyntio ar y materion” sy’n codi yn sgîl y bleidlais “dyngedfennol” yn hytrach na theithio i Worthy Farm i ddiddanu’r gŵyl-garwyr.

Boi Blur ddim yn hapus

Y bore yma roedd canwr Blur yn perfformio yn Glastonbury gyda’r Orchestra of Syrian Musicians, ac fe gyfeiriodd at Brexit.

Fe ddywedodd Damon Albarn: “Mae gen i galon drom iawn heddiw, achos, yn fy marn i, mae democratiaeth wedi ein gadael ni lawr.

“Mae democratiaeth wedi ein gadael ni lawr am ei fod yn anhyddysg.

“Ac mi rydw i am i chi wybod… y medrwn ni newid y penderfyniad yna. Mae hynny’n bosib.”