Tesco (Llun: Mankiknd CCA2.0)
Yn yr ail chwarter yn olynol, mae archfarchnad Tesco wedi gweld cynnydd yn ei werthiant, dan arweiniad y prif weithredwr, Dave Lewis.

Mae’r cwmni anferth wedi dioddef colledion sylweddol wrth gystadlu â siopau disgownt mawr fel Lidl ac Aldi, ond am y tro cyntaf ers dros bum mlynedd, mae ei werthiant wedi cynyddu dros ddau chwarter.

Yn chwarter cyntaf y flwyddyn, fe wnaeth ei werthiant gynyddu 0.3%, gyda hwnnw’n cynyddu rhywfaint eto yn yr ail chwarter i 0.9%.

Enwau ffermydd ffug

Dywedodd Dave Lewis fod brandiau bwyd ffres Tesco wedi bod yn “perfformio’n dda iawn”, gyda dros ddwy ran o dair yn prynu cynnyrch o’r pecynnau newydd.

Mae’r cwmni wedi cael ei feirniadu am ddefnyddio enwau ffermydd ffug fel Woodside, Willow a Boswell, ar y pecynnau, sy’n swnio fel rhai Prydeinig, er bod y cynnyrch yn dod o ledled y byd.

Yn ôl Tesco, cam brandio yw hyn yn unig, ac mae Lidl ac Aldi yn defnyddio enwau ffermydd ffug hefyd.

Gwerthu asedau

Dros y pythefnos diwethaf, mae’r cwmni wedi bod yn gwerthu llawer o asedau sydd ddim yn ymwneud â’i brif fusnes o werthu bwyd.

Mae Tesco wedi gwerthu ei gyfres o fwytai i berchennog Harry Ramsden, Ranjit Boparan, a hefyd wedi cael dod â’i wasanaeth yn Nhwrci i ben, ymhlith gwerthiannau eraill.