Jo Cox AS (Llun o'i gwefan)
Mae gŵr y diweddar Aelod Seneddol, Jo Cox, wedi honni ei bod wedi ei lladd oherwydd ei daliadau “cryf iawn”, a’i bod yn bryderus am gyfeiriad gwleidyddiaeth yn gyffredinol.

Dywedodd Brendan Cox wrth y BBC bod ymateb y cyhoedd i’w marwolaeth wedi bod yn “anhygoel” a’i fod wedi “gwneud cyfraniad pwysig iawn” wrth i ddau blentyn y cwpl geisio dygymod a marwolaeth eu mam.

Fe awgrymodd yr hoffai weld AS benywaidd yn cymryd lle ei wraig yn etholaeth Batley a Spen.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn bryderus bod pobl yn defnyddio ei marwolaeth mewn dadl gyhoeddus dywedodd: “Roedd hi’n wleidydd ac roedd ganddi ddaliadau gwleidyddol cryf iawn ac rwy’n credu ei bod wedi ei lladd oherwydd y daliadau hynny.

“Rwy’n credu ei bod wedi marw o’u herwydd ac fe fyddai wedi hoffi eu hamddiffyn ar ôl ei marwolaeth gymaint ag y gwnaeth hi yn ystod ei bywyd.”

Cafodd y fam i ddau o blant ifanc ei lladd wrth iddi gynnal cymhorthfa yn ei hetholaeth, Batley and Spen, yn Sir Efrog ddydd Iau diwethaf.

Mae Thomas Mair, 52, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Jo Cox.

Byddai’r AS Llafur wedi dathlu ei phen-blwydd yn 42 oed yfory.

Mae Aelodau Cynulliad Cymru wedi bod yn talu teyrnged i’r AS ym Mae Caerdydd heddiw gan gynnal munud o dawelwch.